Gorchymyn drafft a osodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 19 o Ddeddf Cyrff Cyhoeddus 2011, i’w gymeradwyo drwy benderfyniad Cynulliad Cenedlaethol Cymru.

2012 Rhif (Cy. )

CYRFF CYHOEDDUS

Y DIWYDIANT DŴR, CYMRU A LLOEGR

FFIOEDD A THALIADAU, CYMRU A LLOEGR

Gorchymyn Cyrff Cyhoeddus  (Cyflenwad Dŵr ac Ansawdd Dŵr) (Ffioedd Arolygu) 2012

NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Gorchymyn)

Mae'r Gorchymyn hwn yn darparu i ffioedd fod yn daladwy gan gyflenwr dŵr perthnasol am gyflawni swyddogaethau penodol o dan Ddeddf y Diwydiant Dŵr 1991 gan arolygydd a benodir gan Weinidogion Cymru o dan y Ddeddf honno. Mae'r swyddogaethau yn ymwneud â'r ymchwiliadau a'r gofynion adrodd a ganlyn—

(a)     gwirio trefniadau samplu a dadansoddi dŵr;

(b)     gwirio trefniadau rheoli cyflenwad dŵr;

(c)     ymchwilio i ddigwyddiad, achlysur, argyfwng neu fater arall sy'n deillio o ansawdd neu ddigonolrwydd dŵr;

(d)     gwirio'r dull o ymdrin â chwynion gan ddefnyddwyr am ansawdd dŵr a'r dull o adrodd ar y cwynion hynny; ac

(e)     gwirio cydymffurfedd â gofynion i roi gwybodaeth i Weinidogion Cymru ynghylch y trefniadau a'r materion hyn neu i'w hysbysu am y trefniadau a'r materion hyn.

Mae'r Gorchymyn hwn yn nodi'r amgylchiadau pan fo ffioedd yn daladwy ac yn cael eu cymeradwyo, eu cyhoeddi a'u hadolygu a'r modd o wneud hynny (erthygl 4 a'r Atodlen).

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar wneud Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â'r Gorchymyn hwn. O ganlyniad, lluniwyd asesiad effaith rheoleiddiol o'r costau a'r buddiannau sy'n debygol o ddeillio o gydymffurfio â'r Gorchymyn hwn. Gellir cael copi oddi wrth: Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ.

 


Gorchymyn drafft a osodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 19 o Ddeddf Cyrff Cyhoeddus 2011, i’w gymeradwyo drwy benderfyniad Cynulliad Cenedlaethol Cymru.

2012 Rhif (Cy. )

CYRFF CYHOEDDUS

Y DIWYDIANT DŴR, CYMRU A LLOEGR

FFIOEDD A THALIADAU, CYMRU A LLOEGR

Gorchymyn Cyrff Cyhoeddus  (Cyflenwad Dŵr ac Ansawdd Dŵr) (Ffioedd Arolygu) 2012

Gwnaed                                                 ***

Yn dod i rym yn unol ag erthygl 1

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adrannau 14(3) a 15(1) o Ddeddf Cyrff Cyhoeddus 2011([1]) (“y Ddeddf”).

At ddibenion adran 16 o'r Ddeddf, mae Gweinidogion Cymru o'r farn—

(a)     bod y Gorchymyn hwn yn ateb y diben y cyfeirir ato yn adran 16(1) o'r Ddeddf; a

(b)     bod yr amodau yn adran 16(2)(a) a (b) o'r Ddeddf wedi eu bodloni.

Mae Gweinidogion Cymru wedi ymgynghori yn unol ag adran 18 o'r Ddeddf.

Mae drafft o'r Gorchymyn hwn a dogfen esboniadol sy'n cynnwys yr wybodaeth sy'n ofynnol o dan adran 19(2) o'r Ddeddf wedi eu gosod gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn unol ag adran 19(1) ar ôl diwedd y cyfnod o ddeuddeng wythnos fel a bennir yn adran 19(3). Yn unol ag adran 19(4) o'r Ddeddf, mae drafft o'r Gorchymyn hwn wedi ei gymeradwyo drwy benderfyniad Cynulliad Cenedlaethol Cymru ar ôl diwedd y cyfnod o 40 niwrnod y cyfeirir ato yn y ddarpariaeth honno.

Enwi, cychwyn a rhychwantu

1.—(1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Cyrff Cyhoeddus (Cyflenwad Dŵr ac Ansawdd Dŵr) (Ffioedd Arolygu) 2012.

(2) Daw i rym drannoeth y diwrnod y'i gwneir.

(3) Mae'n rhychwantu Cymru a Lloegr.

Dehongli

2.—(1) Yn y Gorchymyn hwn—

ystyr “Deddf 1991” (“the 1991 Act”) yw Deddf y Diwydiant Dŵr 1991([2]);

ystyr “arolygydd” (“inspector”) yw person a benodir gan Weinidogion Cymru o dan adran 86(1) o Ddeddf 1991 (aseswyr gorfodi ansawdd dŵr)([3]);

ystyr “cyflenwr dŵr perthnasol” (“relevant water supplier”) yw—

(a)     ymgymerwr dŵr([4]) y mae ei ardal yn gyfan gwbl neu'n bennaf yng Nghymru; neu

(b)     cwmni sy'n ddeiliad trwydded cyflenwi dŵr o fewn ystyr adran 17A o Ddeddf 1991 (trwyddedu cyflenwyr dŵr) sy'n defnyddio system gyflenwi unrhyw ymgymerwr dŵr y mae ei ardal yn gyfan gwbl neu'n bennaf yng Nghymru;

ystyr “Prif Arolygydd” (“Chief Inspector”) yw'r person a ddynodir felly o dan adran 86(1B) o Ddeddf 1991; a

rhaid dehongli “system gyflenwi” (“supply system”) yn unol ag adran 17B(5) o Ddeddf 1991.

(2) Yn y Gorchymyn hwn bydd unrhyw gyfeiriadau at “y tabl” (“the table”) yn gyfeiriadau at y tabl yn yr Atodlen.

Y cyfnod y caniateir codi tâl amdano

3.—(1)Yn y Gorchymyn hwn rhaid cyfrifo nifer y cyfnodau y caniateir codi tâl amdanynt yn seiliedig ar y fformiwla canlynol—

C=

pan—

“C” yw nifer y cyfnodau y caniateir codi tâl amdanynt; a

“A” yw cyfanswm yr amser (a fynegir mewn oriau) pan fo arolygydd yn cyflawni swyddogaeth a bennir ym mharagraff (b), (c) neu (d) o golofn 1 y tabl ar ddiwrnod calendr.

(2) At ddibenion cyfrifo “A” os bydd mwy nag un arolygydd yn cyflawni'r swyddogaeth, rhaid agregu cyfanswm yr amser a dreuliwyd gan bob arolygydd.

Ffioedd

4.—(1) Caiff y Prif Arolygydd godi ffi ar gyflenwr dŵr perthnasol, a honno’n daladwy pan geir anfoneb ar ei chyfer, am arfer swyddogaethau arolygydd o dan adran 86(2) o Ddeddf 1991 fel y'u pennir yng ngholofn 1 o'r tabl.

(2) Rhaid i'r Prif Arolygydd benderfynu ar y ffi yn unol â'r cofnod cyfatebol yng ngholofn 2 o'r tabl.

(3) Rhaid i'r cyfraddau sydd i'w cymhwyso wrth wneud penderfyniad o ran y ffi y cyfeirir ati yng ngholofn 2 o'r tabl gael eu pennu gan y Prif Arolygydd ac—

(a)     cael eu cymeradwyo gan Weinidogion Cymru;

(b)     cael eu cyhoeddi gan Weinidogion Cymru (rhaid i hynny gynnwys eu cyhoeddi ar wefan); ac

(c)     cael eu hadolygu gan Weinidogion Cymru ar neu cyn 30 Mehefin ym mhob blwyddyn galendr ar ôl y flwyddyn galendr pan gymeradwywyd y ffi ddiwethaf gan Weinidogion Cymruo dan is-baragraff (a).

(4) Rhaid i unrhyw ffioedd a geir o dan y Gorchymyn hwn gael eu talu i'r Gronfa Gyfunol.

Enw

 

Gweinidog yr Amgylchedd a Datblygu Cynaliadwy, un o Weinidogion Cymru

 

Dyddiad

YR ATODLEN

Erthygl 4

Y FFIOEDD AM GYFLAWNI'R SWYDDOGAETHAU O DAN ADRAN 86 O DDEDDF Y DIWYDIANT DŴR 1991

Tabl

1

Y Swyddogaeth

2

Y Ffi

(a)  Gwirio bod y trefniadau samplu a dadansoddi ar gyfer samplau dŵr a gesglir gan y cyflenwr dŵr perthnasol yn cydymffurfio â'r canlynol—

(i)   Rheoliadau Cyflenwi Dŵr (Ansawdd Dŵr) 2010([5]);

(ii)  adran 68 o Ddeddf 1991; a

(iii) unrhyw ofynion am ddata sampl y mae’n ofynnol eu darparu o dan adran 202 o Ddeddf 1991.

Ffi i'w chyfrifo gan ddefnyddio'r gyfradd—

(i)   a bennwyd ar gyfer pob grŵp o 100 o ganlyniadau samplau dŵr a geir ac a wirir; a

 

(ii)  wedi ei lluosi â chyfanswm pob grŵp o'r fath.

 

 

 

(b) Gwirio—

(i)   bod trefniadau rheoli cyflenwad dŵr y cyflenwr dŵr perthnasol yn cydymffurfio â’r canlynol—

(aa) Rheoliadau Cyflenwi Dŵr (Ansawdd Dŵr) 2010;

(bb) adran 37 o Ddeddf 1991;

(cc) adran 68 o Ddeddf 1991; a

 

(ii)  bod y cyflenwr dŵr perthnasol wedi cydymffurfio ag unrhyw ofyniad gan Weinidogion Cymru i roi gwybodaeth am y trefniadau hyn o dan adran 202 o Ddeddf 1991.

Ffi i'w chyfrifo gan ddefnyddio'r gyfradd—

(i)   wedi ei phennu fesul cyfnod y caniateir codi tâl amdano; a

 

(ii) wedi ei lluosi â chyfanswm y cyfnodau y caniateir codi tâl amdanynt a dreuliwyd yn cyflawni'r swyddogaeth.

 

 

(c)  Mewn perthynas â chyflenwr dŵr perthnasol—

(i)   Ymchwilio i ddigwyddiad, achlysur, argyfwng neu fater arall pan fo unrhyw un neu rai o’r materion hynny yn dangos ei bod yn bosibl nad yw’r cyflenwr dŵr perthnasol wedi cydymffurfio â’r canlynol—

(aa) Rheoliadau Cyflenwi Dŵr (Ansawdd Dŵr) 2010;

(bb)  adran 37 o Ddeddf 1991;

(cc) adran 68 o Ddeddf 1991; a

(ii)  gwirio bod hysbysiad wedi ei roi am ddigwyddiad, achlysur, argyfwng neu fater arall o'r fath gan y cyflenwr dŵr perthnasol yn unol â unrhyw ofyniad gan Weinidogion Cymru i roi gwybodaeth o'r fath o dan adran 202 o Ddeddf 1991.

Ffi i'w chyfrifo gan ddefnyddio'r gyfradd—

(i)   wedi ei phennu fesul cyfnod y caniateir codi tâl amdano; a

 

(ii)  wedi ei lluosi â chyfanswm y cyfnodau y caniateir codi tâl amdanynt a dreuliwyd yn cyflawni'r swyddogaeth.

 

 

(d) Mewn perthynas â chyflenwr dŵr perthnasol—

(i)   ymchwilio i gwynion gan ddefnyddwyr am ansawdd neu ddigonolrwydd dŵr lle bod y gwyn yn dangos ei bod yn bosibl nad yw’r cyflenwr dŵr perthnasol wedi cydymffurfio â’r canlynol—

(aa) Rheoliadau Cyflenwi Dŵr (Ansawdd Dŵr) 2010;

(bb)  adran 37 o Ddeddf 1991;

(cc) adran 68 o Ddeddf 1991; a

(ii)  gwirio bod  y cyflenwr dŵr perthnasol wedi cydymffurfio ag unrhyw ofyniad gan Weinidogion Cymru i roi gwybodaeth am gwynion o'r fath o dan adran 202 o Ddeddf 1991.

Ffi i'w chyfrifo gan ddefnyddio'r gyfradd—

(i)   wedi ei phennu fesul cyfnod y caniateir codi tâl amdano; a

 

(ii) wedi ei lluosi â chyfanswm y cyfnodau y caniateir codi tâl amdanynt a dreuliwyd yn cyflawni'r swyddogaeth.

 



([1])           2011 p.24.

([2])           1991 p.56.

([3])           Diwygiwyd adran 86 gan adran 57 ac adran 101(1) o Ddeddf Dŵr 2003 p.37 a pharagraff 27 o Atodlen 8 iddi. Y mae offerynnau diwygio eraill i'w cael, ond nid yw'r un ohonynt yn berthnasol. Gwnaed y swyddogaethau o dan adran 86 (ac eithrio is-adran (1A)) yn arferadwy gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru (“y Cynulliad”) i'r un graddau ag y mae'r pwerau, y dyletswyddau a'r darpariaethau eraill y mae adran 86 yn gymwys iddynt yn arferadwy gan y Cynulliad drwy erthygl 2 o Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672) (“y Gorchymyn"); gweler y cofnod yn Atodlen 1 i'r Gorchymyn ar gyfer Deddf y Diwydiant Dŵr 1991 fel y'i hamnewidiwyd gan baragraff (e) o Atodlen 3 i Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 2000 (O.S. 2000/253) ac fel y'i diwygiwyd gan adran 100(2) o Ddeddf Dŵr 2003. Yn rhinwedd adran 162 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 p.32 a pharagraff 30 o Atodlen 11 iddi, mae'r swyddogaethau a roddwyd i'r Cynulliad yn arferadwy gan Weinidogion Cymru.

([4])           Gweler Atodlen 1 i Ddeddf Ddehongli 1978 p.30.

([5])           O.S. 2010/994 (Cy.99) fel y'i diwygiwyd gan O.S. 2011/14 (Cy.7).